P-05-995 Rhyddid i Roi Gwaed

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Arron Glyn Bevan-John, ar ôl casglu cyfanswm o 2,726 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

​​Yng Nghymru, ni chaniateir i ddynion hoyw a deurywiol roi gwaed - oni bai eu bod yn ymatal rhag cael rhyw am dri mis. Hoffem ymgyrchu dros 'Waed Heb Ragfarn' gan roi rhyddid i bobl roi gwaed. Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru gael gwared ar y cyfnod gohirio tri mis, a chyflwyno dull personol sy'n seiliedig ar risg i asesu ymddygiadau rhywiol, yn hytrach na phroses or-syml lle caiff pobl eu grwpio gyda'i gilydd ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol gan eu gwahardd rhag rhoi gwaed. Dyma'r ffordd orau o sicrhau bod y rhai sy'n awyddus i roi gwaed, ac sy'n gallu gwneud hynny'n ddiogel, yn gallu.

 

Mae'n fater iechyd cyhoeddus ac yn fater anghydraddoldeb. Nid oes gennym ddigon o waed yn ein banciau gwaed ond eto rydym yn dewis gwahaniaethu yn erbyn grŵp cyfan o bobl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol. Dim ond un ateb sydd i brinder gwaed yn genedlaethol; dileu'r cyfnod gohirio a rhoi'r gorau i wahaniaethu yn erbyn dynion hoyw a deurywiol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gwyr

·         Gorllewin De Cymru